Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015 a dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 a dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015
Toriad: Dydd Llun 14 Rhagfyr 2015 - dydd Sul 10 Ionawr 2016
Dydd Mawrth 12 Ionawr 2016 a dydd Mercher 13 Ionawr 2016
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Polisi Caffael - Ysgogi Gwelliant ac Ymgysylltu â Busnesau (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub o 2016 Ymlaen (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ar y rhaglen i ddileu TB (30 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Swyddfa Brisio sy'n deillio o'r Bil Menter (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach sy'n deillio o'r Bil Menter (15 munud)
· Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (15 munud)
· Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (15 munud)
Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Dadl fer-Christine Chapman (Cwm Cynon) (30
munud)
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyllideb Ddrafft 2016-17 (30 munud)
· Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (60 munud)
· Dadl ar Benderfyniad Ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (5 munud)
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Treth (60 munud)
Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 12 Ionawr 2016
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cynhyrchu ynni lleol (30 munud)
· Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 (15 munud)
· Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2016 (15 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond i bleidleisiau arnynt ar wahân:
· Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodol a Chysyniadau Eilaidd a Ragnodir (Cymru) 2016 (5 munud)
· Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Lles a Gwaith, mewn perthynas â darpariaethau/gwelliannau’n ymwneud â’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol (30 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai a Chynllunio mewn perthynas â darpariaethau’n ymwneud â rhyddfreinio ac ymestyn prydlesi hir (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol Effaith a Dylanwad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2014-15 (60 munud)
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Bil Cymru Drafft (180 munud)
· Dadl Fer (30 munud)